Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Vortex (15)

Ffrainc | 2021 | 140’ | 15| Gaspar Noé | Iaith Dramor
Dario Argento, Françoise Lebrun

Mewn fflat ym Mharis rydyn ni’n cwrdd â dau berson yn eu hwythdegau sydd wedi byw bywyd boddhaus gyda’i gilydd, yn llawn cariad a gweithgareddau deallusol. Ond erbyn hyn maen nhw’n byw gyda dementia ac iechyd sy’n dirywio, ac mae eu mab yn poeni amdanyn nhw a’u llesiant. 

Mae’r awdur-gyfarwyddwr Noé wedi bod yn synnu cynulleidfaoedd Cannes ers degawdau gyda’i bortread o ryw, cyffuriau a thrais; ond doedd neb yn disgwyl ffilm mor nerthol o dawel a marwnadol. Wedi’i saethu â sgrin ranedig, gyda chamera llac a symudol, dyma ffilm sy’n edrych yn ddwys ar realiti cysylltiad a chariad dwfn mewn henaint.

Yn Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg

Prisiau:

£6 / £4 

Unallocated seating - sold at full capacity


COVID safety: We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here.

Tocynnau ac Amseroedd