
Gwlad Belg | 2021 | 99’ | PG | Ari Folman, Ruby Stokes, Emily Carey
Un dydd yn Amgueddfa Anne Frank yn Amsterdam gyfoes, mae dyddiadur Anne Frank (roedd hi’n ei alw’n Kitty) yn dod yn fyw ac yn gofyn i berson ifanc arall sy’n cuddio yn yr amgueddfa am gymorth i ddarganfod beth ddigwyddodd i’w ffrind gorau. Mae Kitty’n gweld misoedd olaf teulu’r Frankiaid yn goroesi yn ystod yr Holocost, ac mae’n cael ei chyflwyno i Ewrop fodern gan ei ffrind gorau newydd. Yn feiddgar ac yn gyfoeth o ddychymyg, gyda thrac sain hyfryd gan Karen O a Ben Goldwasser, mae cyfarwyddwr Waltz with Bashir Ari Folman (sydd yntau’n fab i oroeswyr yr Holocost) yn hidlo stori enwog Anne drwy lens fodern i’w gwneud yn hygyrch i genhedlaeth newydd ar adeg pan mae gwrthsemitiaeth a ffasgiaeth ar gynnydd unwaith eto.