Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

White Noise (15)

Gwen 9 - Iau 15 Rhag 2022
,

UDA | 2022 | 136’ | 15 | Noah Baumbach | Adam Driver, Greta Gerwig, Don Cheadle, Jodie Turner-Smith

Mae addasiad Noah Baumbach o nofel gwlt ‘anffilmiadwy’ Don DeLillo yn gomedi dywyll hyfryd o hynod, gydag Adam Driver a Greta Gerwig yn serennu.

Sut orau i ddisgrifio sŵn gwyn annisgrifiadwy? Mae’n ffilm am ddim byd ac am bopeth – am fywyd, marwolaeth, a’r teulu niwclear; mae’n delio ag adweithiau niwclear, meddyginiaethau dirgel, a gofod cysegredig yr archfarchnad. Mae Jack Gladney (Adam Driver) yn athro coleg sydd wedi priodi bedair gwaith, ac yn byw bywyd cyffredin – neu mor gyffredin ag y gall bywyd fod pan rydych chi’n arloeswr ym maes astudiaethau Hitler ond dim ond newydd ddechrau dysgu Almaeneg. Gyda chast o sêr yn chwarae teulu, ffrindiau, a chydweithwyr, gan gynnwys Greta Gerwig, Don Cheadle, Jodie Turner-Smith a Lars Eidinger, mae gwrth-arwr Adam Driver yn mynd ar daith i orchfygu ei ofn enbyd o farwolaeth, gyda chanlyniadau annisgwyl iawn.

Bydd y rhai sy’n hoff o Baumbach yn ymhyfrydu mewn golwg miniog a doniol arall ar gysylltiadau dynol. Ond yn White Noise mae’r awdur-gyfarwyddwr yn chwarae gyda genre a ffurf mewn ffyrdd newydd, gan greu ffilm sy’n llythyr serch i lyfr DeLillo, a dyma brosiect mwyaf uchelgeisiol a swreal Baumbach hyd yma. 

Prisiau:

£6 / £4 

Tocynnau ac Amseroedd