
Denmarc | 2021 | 104’ | 15 | Thomas Daneskov | Daneg gydag isdeitlau Saesneg
Rasmus Bjerg, Zaki Youssef, Sofie Gråbøl
A’r byd modern yn peri iddo deimlo’n llai o ddyn, mae Martin wedi ffoi rhag ei deulu i fyw yn uchel ym mynyddoedd Norwy – yn gwisgo dillad ffwr, ac yn hela a chasglu fel gwnaeth ei gyndeidiau filoedd o flynyddoedd yn ôl cyn i archfarchnadoedd a ffonau clyfar sbwylio popeth (er ei fod yn dal i ddefnyddio’r ddau!). Ond mae ei brosiect hunan-wireddu dadleuol yn cael ei darfu pan mae’n cwrdd â Musa, rhedwr cyffuriau wedi’i anafu sydd ar goll yn y goedwig. Mae’r cwpl rhyfedd yn dod at ei gilydd wrth iddyn nhw gael eu herlid yn y gwyllt gan heddwas lleol Øyvind, gelynion Musa, a gwraig flin Martin.
Comedi o gamgymeriadau graff, gyda naratif ecsentrig, sy’n cyfuno ffraethineb sych yn effeithiol gyda ffrwydradau o drais. Mae’r ffilm yma’n archwilio’r dyn modern mewn ffordd ddychanol ond annwyl. Golwg ffres ac abswrdaidd ar argyfwng canol bywyd.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi
Sul 24 , Maw 26 - Mer 27 Medi