
Gorllewin yr Almaen | 1976 | 176’ | 18 | Wim Wenders | Almaeneg gydag isdeitlau Saesneg | Rüdiger Vogler, Hanns Zischler
Wrth deithio ar hyd y ffin rhwng Dwyrain a Gorllewin yr Almaen, mae’r atgyweiriwr taflunwyr Bruno yn cwrdd â Robert, dyn ifanc ag iselder y mae ei briodas newydd chwalu. Mae’r ddau’n dod yn ffrindiau da, wrth i Robert fynd gyda Bruno ar ei deithiau yn ymweld â sinemâu sydd wedi gweld dyddiau gwell. Ffilm dyner a dadlennol am fywyd mewn gwlad ranedig, gydag atyniad parhaus hud America a harddwch Ewrop ddiflanedig.
“Mae Wenders yn ffilmio eu dryswch mewn tir diffaith gydag eironi tyner ac optimistiaeth deimladwy.” Richard Brody, New Yorker