The stair lift to Cinema 1 is currently out of order. For step-free access, please book tickets for Cinema 2. Thank you for your patience!

A woman with brown hair and a fringe walks down a corridor of in a parcel warehouse wearing a yellow lanyard around her neck over a blue zipped-up hoodie.

Film

Gŵyl Ffilmiau Glasgow: On Falling

TBC
  • 2024
  • 1h 44m
  • UK

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Laura Carreira
  • Tarddiad UK
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 44m
  • Tystysgrif TBC
  • Math Film

Mae ymfudwraig unig o Bortiwgal sy’n gweithio fel pigwr mewn warws yn yr Alban yn ei chael yn anodd ffurfio cysylltiadau, mewn astudiaeth ymdrochol o gymeriad sydd hefyd yn taflu goleuni ar ansicrwydd cyflogaeth fodern.

Mae’r awdur/cyfarwyddwr Laura Carreira yn ein trochi ym mywyd Aurora (Joana Santos) yn ei hastudiaeth deimladwy o ymfudwraig o Bortiwgal sy’n gweithio mewn warws yn yr Alban. Mae diwrnodau gwaith Aurora yn cael eu tywys gan sŵn peiriant, ac mae ei nosweithiau’n llawn unigrwydd mewn llety mae’n ei rannu, wrth iddi freuddwydio am gael swydd well. Ciplun cymdeithasol empathetig realaidd sy’n cynnig ffenest i ansicrwydd ariannol yr economi gig, gydag ysgafnder sy’n dangos pwysigrwydd cysylltiadau bob dydd.

Mae Gŵyl Ffilmiau Glasgow yn dychwelyd am yr 21ain tro, rhwng 26 Chwefror a 9 Mawrth 2025. Yn hyrwyddo’r ffilmiau newydd gorau gan wneuthurwyr ffilm newydd, gan ddathlu clasuron y blynyddoedd a fu.

Share

Times & Tickets