Events

Gwneud ffilmiau ar y lefel nesaf: dosbarth meistr byr i bobl ifanc greadigol 13-15 oed

  • 3h 0m

Nodweddion

  • Hyd 3h 0m
  • Math Workshops

Yn ystod y sesiwn ymarferol hwn am ddim byddwch chi’n dysgu technegau a thriciau i ffilmio ac i olygu ffilmiau byr gwych ar eich iPhone neu eich ffôn clyfar Android. Byddwn yn edrych ar beth sy’n gwneud ffilm dda, a sut mae ffilmio saethiadau cŵl a’u golygu gyda’i gilydd er mwyn iddyn nhw adrodd eich stori’n effeithiol.

Bydd y sesiwn yn cael ei arwain gan Tom Barrance sydd wedi creu learnaboutfilm.com a’r e-lyfr Start Making Movies.

Bydd angen i chi osod yr ap am ddim VN Editor cyn y sesiwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at moviemaker@chapter.org.


Peiriannydd a Chyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chynllunio ar gyfer Cyngor Sir De Morgannwg oedd Ewart Parkinson, a arweiniodd y gwaith o droi canol dinas Caerdydd yn ardal i gerddwyr ac o ddatblygu Bae Caerdydd. Roedd yn angerddol am gefnogi creadigrwydd a chynwysoldeb yng Nghaerdydd a Chymru. Ein nod ar gyfer y rhaglen yma, sy’n cael ei hariannu, yw annog a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau dawnus.

Share