Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Performance

Harry Mackrill: Fabulations

  • 1h 0m

Free

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Math Plays/Drama

FABULATIONS: archifo profiadau di-gofnod Pobl Ifanc LHDTC+ o Adran 28 o 1988 - 2003

Yn rhannol ymweliad archifo, cyfweliad ymchwil, a gweithdy creadigol, mae FABULATIONS yn berfformiad un i un sy’n archifo profiadau digofnod pobl ifanc LHDTC+ o Adran 28, 1988 – 2003. Mae FABULATIONS yn gweithio mewn tri cham, a gall y gynulleidfa-gyfranogwyr eu profi mewn unrhyw drefn.

Llythyron o’r archif: gwahoddir y gynulleidfa-gyfranogwyr i archwilio archif bresennol Adran 28 drwy lythyron a ysgrifennwyd i ymgyrch Stop the Clause (1987 – 88).

Fy archif: gwahoddir y gynulleidfa-gyfranogwyr i archwilio arteffactau o fy ieuenctid, sy’n archifo fy mhrofiad i o Adran 28 (1990 – 2002)

Archif newydd: Gwahoddir y gynulleidfa-gyfranogwyr i gyfrannu at archif newydd o brofiadau pobl ifanc LHDTC+ sydd heb eu cofnodi’n flaenorol o Adran 28 rhwng 1988 – 2003 drwy ddull Celain Goeth.

Mae FABULATIONS yn para yr un hyd ag albwm Beverley Knight o 1998 Prodigal Sista (54 munud).

___

Ynglŷn â'r artist

Gwneuthurwr theatr sy’n byw yng ngwledydd Prydain yw Harry Mackrill (fe). Hyfforddodd fel actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac fel cyfarwyddwr yn Theatr Tricycle. Bu Harry’n Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr Kiln (2018 – 2019) ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer cynhyrchiad y National Theatre o Angels in America (2017). Mae’n gyd-sylfaenydd Lot Productions.

Ymhlith ei waith cyfarwyddo diweddar mae: Led By the Child (The Lot Productions / Dewis Swyddogol Gŵyl Ffilmiau Greenwich 2024); What It Means (Wilton’s Music Hall); World’s End, Boy with Beer (Theatr King’s Head).

Share

Times & Tickets