
Film
I Am Martin Parr (12A)
- 2024
- 1h 6m
- UK
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Lee Shulman
- Tarddiad UK
- Blwyddyn 2024
- Hyd 1h 6m
- Tystysgrif 12A
- Math Film
Ers y saithdegau, mae’r ffotograffydd o Loegr Martin Parr wedi dal drych i’n cyfnod, sydd weithiau’n dyner, weithiau’n feirniadol, a bob amser yn chwareus, gan ein gorfodi ni i edrych o ddifri ar sut mae cymdeithas brynwriaeth wedi siapio ein bywydau. Darganfyddwn y dyn tu ôl i rai o luniau mwyaf eiconig y ganrif ddiwethaf, ar daith ar draws Lloegr sy’n cynnig golwg clòs ac unigryw o’r cymeriad digyfaddawd, y mae ei bynciau, ei fframiau a’i liwiau wedi chwyldroi ffotograffiaeth gyfoes.
Yn un o ffotograffwyr mwyaf dadleuol ei gyfnod, yn aml mae gan luniau Martin Parr y pŵer i’n diddori a’n gadael ni braidd yn anghyfforddus – wedi’n dal rhwng y chwerthin a’r gydnabyddiaeth anesmwyth wrth edrych ar ein hunain, yn ei bortread digyfaddawd o gymdeithas brynwriaethol.
Er ei fod bellach yn cael ei ddathlu, ei gasglu a’i arddangos yn fyd-eang, ni chafodd waith cynnar Martin Parr ei dderbyn yn rhwydd gan y cyhoedd, a chafodd ei farnu’n hallt am fychanu’r dosbarth gweithiol. Ond eto, wrth edrych ’nôl, efallai mai sylwi ar yr hyn rydyn ni’n aml yn ei ddiystyried roedd e – a’i orfodi i’r blaendir fel pwnc trafod hanfodol. Mae I Am Martin Parr yn bortread diffiniol o ffotograffydd rhagorol a wnaeth chwyldroi ffotograffiaeth gyfoes drwy ddyfeisio iaith ffotograffig wleidyddol, ddyneiddiol a hygyrch.
© Martin Parr : Magnum Photos LON75285.jpg.png
Rhaghysbysebion a chlipiau
More at Chapter
-
- Film
Bad Film Club
Ymunwch â ni mewn dangosiad o erchyllter – fyddwch chi’n methu aros i weld diwedd cyfnod y noson ar ôl hon.
-
- Film
Mr Burton (12A)
The moving story of how wild Richie Jenkins became one of the greatest actors in the world.
-
- Film
Six the Musical Live!
O Freninesau Tuduraidd i Eiconau Pop, mae gwragedd Harri VIII yn adennill eu stori.
-
- Film
Warfare (15)
Stori ddirdynnol a phwerus am filwyr ar genhadaeth yn Irac mewn amser go iawn.