The stair lift to Cinema 1 is currently out of order. For step-free access, please book tickets for Cinema 2. Thank you for your patience!

Film

Japan Foundation Touring Film Programme 2025: Carmen Comes Home

adv12a
  • 1951
  • 1h 26m
  • Japan

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Keisuke Kinoshita
  • Tarddiad Japan
  • Blwyddyn 1951
  • Hyd 1h 26m
  • Tystysgrif adv12a
  • Math Film

Japaneaidd gyda isdeitlau Saesneg

Yng nghefn gwlad Japan wedi’r Ail Ryfel Byd, mae merch o’r enw Carmen yn cyrraedd ac yn ennyn chwilfrydedd y bobl leol. Mae’n dod i’r amlwg mai o’r pentref mae hi’n dod yn wreiddiol, ac mai Okin oedd ei henw, cyn gadael am Tokyo i fod yn ddawnswraig. Mae’r prifathro yn ystyried ei hunan yn dipyn o hyrwyddwr y celfyddydau, ac mae wrth ei fodd o ddarganfod bod y pentre wedi cynhyrchu artist, ond mae’n cael ei synnu pan mae’n sylweddoli pa fath o ddawnswraig yw hi. Mae Carmen yn falch o’i sgiliau, ac yn penderfynu perfformio arddangosiad i’r pentrefwyr. Mae’r gomedi eiconig yma’n un o hoff ffilmiau’r cyfnod, gan archwilio’r newid mewn safonau moesol, a dyma’r ffilm nodwedd Japaneeg gyntaf i gael ei chynhyrchu mewn lliw llawn.

Share

Times & Tickets