The stair lift to Cinema 1 is currently out of order. For step-free access, please book tickets for Cinema 2. Thank you for your patience!

Film

Jukebox Collective: Of Us + discussion

  • 0h 5m
  • Wales

Free

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Liara Burassi
  • Tarddiad Wales
  • Hyd 0h 5m
  • Math Film

3.45 - 4pm - Cyrraedd a chroeso
4 - 4.05pm
- Ffilm Of Us
4.10 - 5pm
- Trafodaethau dan arweiniad Halina Kaszycka-Williams o’r Llyfrgell Brydeinig, yn sgwrsio gyda Liara Barussi, y Cyfarwyddwr Ffilm a Symudiad, cyfansoddwyr ‘Omi’, sef Melo-Zed a Felix Taylor ac arweinydd y cast, Gui Pinto.

___

Mae'r ffilm fer hon yn archwilio'r hanesion helaeth sy'n ymwneud â'r cefnfor, a hynny trwy gyfrwng dawns a symudiad.

Cyfarwyddwyd y darn hwn, a ffilmiwyd yn Ne Cymru, gan Liara Barussi ac mae’n myfyrio ar le Môr yr Iwerydd yn hanes y Bobl Dduon Alltud. Mae’n dathlu treftadaeth un o gymunedau Du hynaf y Deyrnas Unedig - cymuned sydd wedi’i lleoli yn Tiger Bay, Caerdydd.

Yn y ffilm, caiff etifeddiaeth deuluol a'r cyswllt rhwng y corff a'r cof eu hanrhydeddu a'u harchwilio trwy ddawns. Mae'r etifeddiaethau hyn, fel crychdonnau sy’n fythol ehangu, yn parhau i atseinio gyda ni heddiw.

“Mae Of Us yn teithio i isleisiau ein moroedd, gan blethu straeon am ymfudo â symbolaeth gyffredinol dŵr. Gan adleisio cysyniadau Black Aquatic a Tidalectics, mae’r ffilm yn cyfosod yr hylifol a’r sefydlog. Rydym yn talu teyrnged i dreftadaeth y symudiadau a drosglwyddir ymlaen ac rydym yn cofio gwytnwch ein hynafiaid.” - Liara Barussi, Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Symud

___

Credits

Cynhyrchiad Jukebox Collective

Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Symud: Liara Barussi
Cynhyrchydd: Lauren Patterson
Cyfarwyddwr ffotograffiaeth: Nathan O’Kelly
Dylunio sain: Dyfyniad o 'Omi'
Crëwyd gan Felix Taylor a Melo-Zed
Gomisiynwyd gan Touching Bass
Goruchwylio cerddoriaeth gan Alex Rita a Tayo Rapoport
Steilydd: Lauren Anne Groves
Ymgynghorydd Creadigol: Leyman Lahcine
Cast Arweiniol: Gui Pinto, Venice Williams, Monet Williams
Cast: Jukebox Academy - Teaghan Scanlon, Karim Mohamed, Fatima Jarju, Ayoola Wonder, Elizabeth Oredola, Perez Rodriques, Rio Rodriques, Quincy Chambers, Akeylah Hinton, Blessing Oredola, Sheighley-Sky
Cynorthwywyr Symudiadau: Darnell Williams, Naomi Ferne, Patrik Gabco, Millie Campion
Steilydd Gwallt: Trent Jackson
Barbwr: Isaac Omoyibo
Golygydd: Pawel Achtelik
Lliwiwr: Sharon Chung

___

Hanes Jukebox Collective

Mae Jukebox Collective yn gydweithfa gymunedol sy’n cael ei harwain gan bobl ifanc sy’n meithrin lleisiau creadigol yr yfory. Mae eu hasiantaeth greadigol yn arbenigo mewn castio, curadu a chynhyrchu, ochr yn ochr â rhaglen gymunedol amlddisgyblaethol sydd wedi’i llunio o gylch datblygiad artistiaid.

Mae gan Jukebox Collective hanes o ddatblygu talent a chynhyrchu gwaith creadigol sydd ar flaen y gad yn niwylliant Cymru. Mae eu portffolio eang wedi eu gweld yn partneru â gweithredwyr newid byd-eang, o Jamaica i Orllewin Affrica, trwy groestoriad o ddiwylliant ieuenctid, dawns, cerddoriaeth a mwy.

Share

Times & Tickets