Nid yw ein lifft ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio i'w drwsio cyn gynted ag sy'n bosib. Mae'n ddrwg gennyf am yr anhwylustod.

Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar. Gallwch nawr wneud pryniadau yn bersonol, dros y ffôn ac ar-lein. Diolch am eich amynedd.

Read more

Performance

Maggie Nicols and Dan Johnson + support from Robert Evans and Anushiye Yarnell

£0 - £12

Nodweddion

Gan ddathlu cyhoeddi eu cywaith cyntaf, Contact (TBC Editions), mae Chapter yn croesawu Maggie Nicols a Dan Johnson ’nôl. Mae’r byrfyfyrwyr yn dod o ddwy genhedlaeth wahanol, ond yn rhannu dull dewr o gydweithio sy’n seiliedig ar ffurfiau radical o gymunoldeb ac arfer a gwleidyddiaeth gwrando dwfn.

Mae llais, piano a dawnsio tap Maggie yn uno â dronau gong a rhythmau taro Dan, gan greu canlyniadau dwys.

Gyda pherfformiad arbennig gan Robert Evans ac Anushiye Yarnell gyda llais a chrwth.

Mae tocynnau bargen gynnar ar gael tan 6 Mehefin. Defnyddiwch y cod EARLYBIRD6 ar y cam talu.

___

Lleisydd, dawnsiwr a pherfformiwr chwedlonol o’r Alban yw Maggie Nicols. Ers y 1960au, mae hi wedi bod yn ffigwr allweddol yn y sîn byrfyfyr rhydd, gan gynnwys fel rhan o Spontaneous Music Ensemble gyda John Steven, y bu iddi ymuno â nhw yn 1968, band 50 aelod Keith Tippett, Centipede (gyda Julie Tippetts, Zoot Money, Phil Minton, Robert Wyatt, Dudu Pukwana ac Alan Skidmore), fel sylfaenydd y Feminist Improvising Group gyda Lindsay Cooper, a’r triawd dylanwadol Les Diaboliques gydag Irene Schweizer a Joelle Leandre, yn ogystal â nifer di-ri o grwpiau a chydweithrediadau eraill ledled y byd. Yn ffeminydd ymroddedig, mae llawer o’i gwaith wedi ceisio hyrwyddo menywod ym myd cerddoriaeth fyrfyfyr, dawnsio a chelfyddydau creadigol eraill, yn bennaf drwy gynnal gweithdai fel y rhai yn Theatr Oval House yn y saithdegau, a Contradictions, sef grŵp gweithdy perfformio i fenywod a ddechreuodd ym 1980.

Offerynnwr taro yw Dan Johnson sy’n gweithio ym maes sain fyrfyfyr a chyfansoddi estynedig. Gan danseilio syniadau confensiynol am ddrymio, mae ei waith arbrofol yn ymddangos ar draws ystod eang o brosiectau; o waith byrfyfyr unigol wyth awr yn ymateb i gyfarwyddiadau a ddarperir gan y gynulleidfa, i berfformiadau gwahoddiad yn unig mewn twneli rheilffordd, lifftiau a thai bach cyhoeddus, i brosiect byrfyfyr y grŵp anhierarchaidd Ecstatic Drum Beats. Yn rhedeg trwy’r allbwn amlochrog hwn mae’n edrych yn gyson ar gydbwyso siawns a rheolaeth, gan ddatgelu’r berthynas rhwng y perfformiwr a’r gynulleidfa, a gofynion disgyblaeth a dygnwch corfforol. Gyda gwreiddiau dwfn yn sîn DIY Bryste, lle bu, ymhlith ei gydweithrediadau di-ri, yn rhan sefydlog o bwerdy byrfyfyr eang Dali de Saint Paul, EP/64, mae Dan wedi dod â’r un ysbryd agored at waith byw a gwaith wedi’i recordio, gydag artistiaid fel Moor Mother, Ximena Alarcon, Valentina Magaletti, Rattle, Yama Warashi, GNOD a Surgeon.

Mae ymchwil ac arbrofion Robert Evans mewn barddoniaeth a cherddoriaeth farddol ganoloesol wedi ei wneud yn awdurdod byd-eang ar gerddoriaeth y crwth. Robert sy'n gyfrifol am adfywiad y crwth fel offeryn hanesyddol hyfyw, ac mae'n ei ganu gyda thiwnio Pythagoreaidd. Mae’n adnabyddus fel ffidlwr, crëwr offerynnau ac arbenigwr mewn cerddoriaeth linynnol Gymreig ganoloesol, ac mae ei ddeongliadau a'i gyfansoddiadau, sy’n seiliedig ar ffynonellau Cymreig canoloesol, wedi'u perfformio ledled Ewrop a'r Amerig. Mae Robert wedi mentora llawer o’r genhedlaeth bresennol o gerddorion traddodiadol a chwaraewyr crwth. Mae’n cael ei ystyried yn un o'n meddylwyr beirniadol gorau ar rôl traddodiad mewn diwylliant cyfoes.

Crëwr ac artist perfformio yw Anushiye Yarnell, y mae ei gwaith yn tynnu ar brofiad personol a chwedlau'r gorffennol a'r dyfodol. Mae ei gweithiau'n archwilio’r croestoriad rhwng byd breuddwyd a ffantasi a bywyd cyffredin ac amrywiaeth ddiwylliannol, gan ddatgelu swyddogaeth Cariad yn ein bywydau drwy brofiadau.

Share

Times & Tickets