
Film
Mickey 17 (15)
- 2025
- 2h 17m
- South Korea
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Bong Joon Ho
- Tarddiad South Korea
- Blwyddyn 2025
- Hyd 2h 17m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Mae’r arwr annhebygol, Mickey Barnes, mewn sefyllfa annisgwyl, yn gweithio i gyflogwr sy’n mynnu’r ymrwymiad pennaf i’r swydd: marw, fel bywoliaeth. Mae Mickey’n cofrestru i fod yn “aberthadwy”, i fod yn rhywun y bydd clonau’n cael eu gwneud ohono, fel rhan o weithlu tafladwy mewn amgylchiadau peryglus. Ar ôl i un fersiwn ohono farw, mae corff newydd yn cael ei gynhyrchu gyda’r rhan fwyaf o’i atgofion yn gyfan. Un dydd, mae’n cael ei anfon i wladychu byd iâ Nifheim, ac mae pethau’n dechrau mynd o chwith. Ffilm ddychan danbaid ar gyfalafiaeth gan gyfarwyddwr sydd wedi ennill Gwobrau Oscar, Bong Joon-ho (Parasite, Snowpiercer).
+ Cyflwyniad U3A ar ddydd Llun 10 Mawrth, 12.25pm. Mae mudiad u3a yn rhoi cyfleoedd i bobl sydd wedi ymddeol neu wedi ymddeol yn rhannol i ddod at ei gilydd.
____
Clwb Ffilm Byddar
Ymunwch â ni am drafodaeth mewn BSL gyda Heather Williams wrth iddyn ni cyflwyno'r ffilm Mickey 17 am Clwb Ffilm Byddar ar ddydd Mercher 19 Mawrth, 5.55pm.