
Mae'r digwyddiad yma yn cael eu cynnal yn Capel Salem, Rheol Marchnad, CF5 1QE
Bywgraffiad:
Adnabuwyd Giulia Ballaré (1987, Yr Eidal) fel un o’r unawdwyr fwyaf addawol o’i ganrif.
Mae Giulia yn perfformio yn rheolaidd dros y byd.
Mae hi’n athrawes yn Conservatoire de Musique de Genève (https://cmg.ch/professeurs/giulia-ballare/) (Y Swistr) a Conservatorio “A. Vivaldi” yn Alessandria (Yr Eidal). Yn 2013 mi wnaeth hi ryddhau ei albwm cyntaf gyda’r label dotGuitar o’r enw "Lirically Spain” (https://open.spotify.com/album/4wcOR8jFdV83AJ1G1bL0Nq), a wedyn yr albwm “Untuned Guitar” (https://open.spotify.com/album/0Xt3Tt8qOjiw1HXtdcc0gQ) with the Spanish label JSM Guitar Records yn 2019. Hefyd yn 2019 sefydlodd y “Geneva Guitar Duo” (https://www.giuliaballare.com/genevaguitarduo) gyda’r gitarydd Ffrangeg, Pauline Gauthey.
Rhwng 2013-2018 enillodd dros 30 gwobr mewn cystadlaethau rhyngwladol dros y byd gan gynnwys gwobr gyntaf: Andrès Segovia (Linares, 2018), Ciudad de Coria (Spain, 2017), Forum Gitarre Wien (Awstria, 2016), Mottola (Yr Eidal, 2013); ail wobr: J. Tomàs-Petrer (Sbaen, 2018), Enrico Mercatali (Gorizia, 2017/18), Cystadleuaeth Gitâr Thessaloniki (Gwlad Groeg, 2017) Mertz Competition, (Bratislava, 2016), Cystadleuaeth Ryngwladol Montenegro, (Podgorica, 2016); trydedd wobr: Cystadleuaeth Ryngwladol M. Pittaluga (Alessandria, 2017), Cystadleuaeth Ryngwladol A. Frauchi (Moscow, 2017), J. Tomàs-Petrer (Sbaen, 2017), Sevilla (Sbaen, 2017), Emilio Pujol Concorso Internazionale (Yr Eidal, 2017).
Dechreuodd Giulia chwarae’r gitâr pan oedd yn naw mlwydd oed a graddiodd yn 2012 o’r ysgol cerdd yn Novara o dan ei athro, Guido Fichtner. Mynychodd dosbarthau gyda rhai o’r gitaryddion mwyaf adnabyddus yn y byd fel Oscar Ghiglia, David Russell, Pavel Steidl, Paolo Pegoraro, Marcin Dylla, Judicael Perroy, Aniello Desiderio and Adriano Del Sal.
Mae Giulia Ballaré hefyd yn gerddor Savarez (http://www.savarez.fr/giulia-ballare).