
Ar ddiwrnod Barddoniaeth y Byd, dewch i ddathlu’r ffurf byrraf ar farddoniaeth – yr haiku diemwntaidd o Japan – yn lansiad ail gasgliad o farddoniaeth yr awdur a’r cerddor Marc Zeuk Robets.
Mae Company of Words yn falch o gyflwyno’r crefftwr geiriau athrylithgar a fydd yn darllen o’i lyfr newydd, Ghost of Clone, a gyhoeddwyd gan Infinity Books UK.
Bydd Marc yn rhannu cerddi sy’n eich gwahodd i ‘Edrych oddi mewn ac ymlwybro drwy ddolydd y meddwl neu strydoedd o gyflwr dinesig, gyda’u harwyddion amwys sy’n cyfeirio at fersiwn anghyffredin o realiti…’
Bydd gemau, bydd gwesteion. Bydd gwahoddiad i rannu un haiku eich hunain yn ein ‘haiku-mic’. Bydd enillydd yn cael eu dewis, a byddan nhw’n cael cyfrol yn gyfnewid…
Ond, ar Alban Arthan, nid cystadleuaeth sy’n bwysig – ond dod ynghyd ar adeg dywyllaf y flwyddyn i fwynhau jiwbilî gymunedol.
Ymunwch â ni, a mwynhewch…!
Daw’r digwyddiad yma ar noswyl Alban Arthan diolch i gywaith newydd Company of Words a IBUK, gyda chefnogaeth garedig Canolfan Gelfyddydau Chapter.