
Casgliad newydd o DJs Caerdydd yw Pamoja Disco Club, sy’n troelli recordiau Jazz, Bŵgi, Enaid, Affrobeat, Disgo a Rhyngwladol.
Dechreuodd y prosiect pan ddaeth y pedwar cyfaill a’u hoffter o gerddoriaeth at ei gilydd, ar ôl cynnal digwyddiadau Groove Theory, The Sure Shot a Dusty Fingers Records yn y gorffennol.
Heblaw am barhau i gasglu llwythi o recordiadau eclectig, mae’r bechgyn wedi treulio’r ddegawd ddiwethaf fel DJs preswyl yn hoff glybiau Caerdydd, fel Gwdihŵ ac Undertone, a theithio i wyliau Ewrop fel ‘Dimensions’ yng Nghroatia a ‘We Out Here’ gan Gilles Peterson.
Ymunwch â nhw ar gyfer Pamoja Lounge, A Sunday Service, ar drydydd Sul y mis, lle byddan nhw’n gweini cerddoriaeth ar gyfer awyrgylch ymlaciol ein caffi bar. Paratowch i gwympo mewn cariad gyda gwledd o gerddoriaeth na fyddwch wedi’i chlywed o’r blaen!