Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Repair Café Canton

Caffi Trwsio Treganna

Sad 19 Chw , Sad 19 Maw , Sad 16 Ebr , Sad 21 Mai & Sad 18 Meh 2022

Dewch draw i Chapter ar drydydd dydd Sadwrn pob mis lle byddwn ni’n cynnal Caffi Trwsio Cymru. 
 
Casgliad o wirfoddolwyr yw Caffi Trwsio Cymru, sy’n dod at ei gilydd i drwsio eich eitemau am ddim. Eu nod yw lleihau gwastraff, meithrin ymdeimlad o gymuned, ac arbed arian i bobl ar yr un pryd. Felly os oes gennych eitem o’r cartref sydd wedi torri, dewch ag e i’r Caffi Trwsio i’w drwsio am ddim! 
 
Mae gwaith trwsio arferol yn cynnwys: gwaith cynnal a chadw sylfaenol gyda beiciau, trwsio offer trydanol, cymorth gyda chyfrifiaduron, gwnïo, trwsio addurniadau, a gwaith pren, ond byddan nhw’n barod i edrych ar y rhan fwyaf o bethau (heblaw am feicrodonau gan eu bod nhw’n rhy beryglus). 
 
Unrhyw gwestiynau? Anfonwch neges at Caffi Trwsio Cymru ar Facebook ac fe wnawn nhw eu gorau i sicrhau bod rhywun ar gael i drwsio eich eitem. 
 
Mae bob amser croeso i fwy o drwswyr - dewch draw i weld beth sy’n digwydd yma, a soniwch wrth eich ffrindiau. 

Prisiau:

Free / Am ddim

Please note that January’s repair café has been cancelled. We look forward to seeing you in February!

Tocynnau ac Amseroedd