Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
The Cardiff Speak-Easy

Speak-Easy Caerdydd

Mae’r Speak-Easy yn cynnig ymagwedd hwyliog, chwareus ac anogol tuag at siarad yn gyhoeddus.

Os ydych chi’n paratoi am sgwrs anodd gydag anwylyd, eisiau serennu yn y gwaith, neu’n paratoi am araith mewn priodas, mae’r Speak-Easy yn ffordd wych o feithrin hyder yn eich llais, ar eich cyflymder eich hunan.

Bob mis, rydyn ni’n archwilio cwestiwn cyffredin am gyfathrebu – gan gynnig yr atebion i ba bynnag her siarad sydd o’ch blaenau. Nod y Speak-Easy yw eich helpu i fwynhau siarad yn gyhoeddus, os mai cyfweliad neu TED Talk yw eich nod – mae’n bwysig edrych, swnio, a theimlo fel CHI!

1. Mai: “Ydw i’n eu diflasu nhw gyda’r stori yma?” 

2. Mehefin: “Oes rhywun yn gwrando arna i?” 

3. Gorffennaf: “Ble mae dechrau?” 

4. Awst: “Pam ydw i’n casáu sŵn fy llais fy hunan?” 

5. Medi: “Beth i’w wneud gyda fy nwylo?!”

Mae’r ymarferion a’r ymagweddau a ddefnyddir ym mhob Speak-Easy wedi’u hysbrydoli gan waith Charlotte fel cyfarwyddwr theatr rhyngwladol i gefnogi perfformwyr profiadol a newydd i gamu i’r llwyfan yn teimlo ar eu gorau. Mae rhai dulliau wedi’u creu o dan ddylanwad ei phrofiad fel athrawes Ioga a Gwaith Anadl. Mae’n bosib y bydd mynychwyr yn gwneud ymarfer gwaith anadl ymlaciol, neu ganllawiau osgo, er enghraifft. Mae’r gweithgareddau yma’n addas i ddechreuwyr.

Beth mae pobl wedi’i ddweud:

“Mae [Charlotte] mor wybodus a phrofiadol – ro’n i’n teimlo fy mod i mewn dwylo da. Doedd dim byd ddywedais i’n ormod, doedd dim byd yn teimlo’n frawychus neu’n fygythiol, creodd ofod diogel lle roedd pawb yn cael rhannu a sgwrsio. Doedd dim beirniadaeth, roedd mor groesawgar”.

“Mae methodoleg, athrawiaeth a chanllawiau [Charlotte] yn dod â hyder i chi y gallwch ei ddefnyddio nid yn unig ar gyfer perfformio, ond mewn bywyd bob dydd – yn y gwaith, gartref, i wella perthnasoedd rhwng ffrindiau, teulu neu gydweithwyr”.

“Fe wnaeth yr ymarferion gymaint i fy nerfau, gan fy helpu i wreiddio fy hunan a fy nghadw wedi ymlacio”.

“Helpodd Charlotte fi i berchnogi’r ffordd rwy’n cyflwyno fy hunan, i ddal fy ngofod fy hunan”.

I archebu lle, anfonwch e-bost at  Charlotte@bodybreathvoice.co.uk neu ewch i: Eventbrite

Prisiau:

£15 per workshop

Please note this event will take place in Mediapoint

-

COVID safety: We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here.

Tocynnau ac Amseroedd