Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Performance

Nosweithia Vogue: Trans Excellence Edition

£12 - £14

Nodweddion

Caerdydd, ydych chi’n barod? Ar 6 Mehefin, bydd Nosweithia Vogue yn dychwelyd i Theatr Seligman Chapter. Dewch i brofi un o’r nosweithiau gorau yma yng Nghaerdydd gan Sîn Ddawnsfa Cymru ar gyfer digwyddiad OTA Kiki.

Dewch mewn pinc, gwyn neu las i anrhydeddu rhagoriaeth draws yn ein cymuned.

Mae Nosweithia Vogue yn ddigwyddiad Kiki sy’n agored i bawb, lle bydd aelodau o’r gymuned yn ymarfer cerdded a brwydro am y gwobrau mawreddog. Mae’r categorïau’n cynnwys Vogue Fem, Runway, Sex Siren a mwy.

Dim ots a fyddwch chi’n cerdded neu’n gwylio, rydyn ni’n addo y bydd hi’n noson wych.

Mae Nosweithia Vogue yn dathlu diwylliant y Ddawnsfa yng Nghymru a’r cyffiniau.

Drysau ar agor o 7pm ymlaen. Mae galw’r enwau’n dechrau’n brydlon am 8pm.

Share

Times & Tickets