Film
Only The River Flows (15)
- 1h 42m
Free
Coming soon
Nodweddion
- Hyd 1h 42m
Tsieina | 2023 | 102’ | 15 | Wei Shujun | Mandarin gydag isdeitlau Saesneg | Yilong Zhu, Hou Tianlai
Mewn tref fechan yn Tsieina’r nawdegau, mae corff menyw’n golchi i’r lan yn yr afon leol. Mae pennaeth yr heddlu, Ma Zhe, yn cael y dasg o arwain yr ymchwiliad. Mae rhywun drwgdybus yn cael ei arestio ar unwaith, ond mae’r dirgelwch yn parhau ym meddwl Ma Zhe. Pa fath o dywyllwch sydd ar waith yma? Yn seiliedig ar nofel fer boblogaidd Yu Hua, Mistakes by the River, dyma bortread miniog o baranoia plwyfol gyda gwead ffilm gronynnog a grutiog sy’n cyfleu’r hanesion pylpaidd. Mae glaw trwm yn amgylchynu’r cymeriadau wrth iddyn nhw syrthio i wallgofrwydd wrth chwilio am y gwirionedd yn y ffilm noir fodern atmosfferig yma.