
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Francis Ford Coppola
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 1974
- Hyd 1h 54m
- Tystysgrif 12A
- Math Film
Rhwng uchelfannau clod beirniadol a llwyddiant y swyddfa docynnau gyda The Godfather Part 1 a 2, fe wnaeth Francis Ford Coppola ysgrifennu a chyfarwyddo’r astudiaeth glòs yma o baranoia a oedd yn cyfleu’r anesmwythder ehangach o gwmpas sgandal Watergate. Mae Gene Hackman yn cynnig un o’i berfformiadau mwyaf eiconig fel Harry Caul, arbenigwr gwyliadwriaeth sy’n profi argyfwng cydwybod pan mae’n amau y bydd cwpl mae’n ysbïo arnyn nhw’n cael eu llofruddio.
Gan weithio unwaith eto gyda’r golygydd sain chwedlonol Walter Murch, mae Coppola’n crefftio ffilm gynyddol ddwys sy’n distyllu pryderon gwleidyddol America drwy ddyn sy’n darganfod beth sy’n digwydd, ond sydd heb bŵer i wneud dim am y peth.
+ Sesiwn holi ac ateb gyda Indoor Drive-In a Dan Thomas are ddydd Sul 9 Chwefror.