
Mae ‘A Figure of Speech’ yn stori am y gwefrau, y rhyfeddodau, y poenau a’r datgeliadau o dynnu dy ddillad yn gyfreithiol o flaen stafelloedd o bobl sydd eisiau dy ddarlunio di.
Yn amlinellu siwrnai Steph Stays Still dros ddegawd o fodelu ar gyfer gwersi celf, mae hi’n gwahodd cynulleidfaoedd i gymryd rhan, yn darparu deunyddiau (a gwers sydyn) er mwyn i chi ei darlunio eich hun ar fomentau artistig arbennig yn ystod y perfformiad.
'Does dim rhaid dweud fod y sioe yn cynnwys noethni, a chithau (artist neu beidio) yn cael eich croesawu i’r Stafell Gelf.
Celf a ddylunio gan Efa Dyfan a Matt Williams