
Junior Actors Workshop yn cyflwyno We Will Rock You gan Queen (fersiwn Young@Part).
Gyda chaneuon llwyddiannus Queen, fel Another One Bites the Dust, Bohemian Rhapsody, Killer Queen, We Will Rock You, Somebody To Love, We Are the Champions, a llawer mwy, mae’r addasiad 70 munud yma o’r sioe West End yn dilyn dau rebel ifanc wrth iddyn nhw adfer roc a rôl i’r iBlaned mewn byd ôl-apocalyptaidd.
Mae WE WILL ROCK YOU Young@Part® yn sioe gerdd ar gyfer ein hamser ni: mae’n anthem i unigoliaeth gan stampio traed a phwmpio dyrnau.
Mae Actors Workshop yn dylunio, yn rhaglennu ac yn darparu gweithdai drama, actio a pherfformio ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghaerdydd ar gyfer pob gallu. Junior Actors Workshop yw cwmni theatr cerdd ieuenctid Actors Workshop ar gyfer pobl ifanc rhwng 7 ac 16 oed bob bore Sadwrn yn ystod y tymor.
Dylech nodi y bydd y perfformiad yma’n cael ei ffilmio.
Gwen 1 Ebr, Gwen 15 Ebr, Gwen 6 Mai, Gwen 20 Mai, Gwen 3 Meh, Gwen 17 Meh, Gwen 1 Gor, Gwen 15 Gor, Gwen 5 Awst, Gwen 19 Awst, Gwen 2 Medi, Gwen 16 Medi, Gwen 7 Hyd, Gwen 21 Hyd, Gwen 4 Tach, Gwen 18 Tach, Gwen 2 & Gwen 16 Rhag