
Dylid nodi y cynhelir Gwyl Gitâr Caerdydd 2021 oddi ar y safle yng Nghapel Salem (Heol y Farchnad, Caerdydd, CF5 1QF)
Gitarydd clasurol o Swydd Northampton yw Shannon-Latoyah Simon. Dechreuodd chwarae’r gitâr yn 9 oed o dan hyfforddiant John Draper. Yn 2016, cwblhaodd Radd BMus o dan hyfforddiant Mark Eden a Mark Ashford yn Conservatoire Cerdd Birmingham. Mae hi wedi perfformio mewn sawl dosbarth meistr gyda gitaryddion profiadol fel Xuefei Yang, Stephen Goss, Gary Ryan a Zoran Dukic. Ym mis Medi 2017, dechreuodd Shannon Radd Meistr yn Conservatoire Cerdd a Dawns y Drindod Laban o dan hyfforddiant Graham Anthony Devine. Graddiodd yn 2019 gyda Theilyngdod.
Mae Shannon wedi bod yn ymwneud â Cherddoriaeth Arbrofol a Chelf Sainweledol drwy’r rhan fwyaf o’i bywyd fel oedolyn. Ynghyd â pherfformio’n rheolaidd fel unawdydd, mae Shannon wedi chwarae gyda sawl ensemble siambr cymysg, ac ar hyn o bryd mae’n Gynorthwyydd Cerdd Siambr yn y Coleg Cerdd Brenhinol.
Gwen 1 Ebr, Gwen 15 Ebr, Gwen 6 Mai, Gwen 20 Mai, Gwen 3 Meh, Gwen 17 Meh, Gwen 1 Gor, Gwen 15 Gor, Gwen 5 Awst, Gwen 19 Awst, Gwen 2 Medi, Gwen 16 Medi, Gwen 7 Hyd, Gwen 21 Hyd, Gwen 4 Tach, Gwen 18 Tach, Gwen 2 & Gwen 16 Rhag