
Dylid nodi y cynhelir Gwyl Gitâr Caerdydd 2021 oddi ar y safle yng Nghapel Salem (Heol y Farchnad, Caerdydd, CF5 1QF)
Mae The Reiver Duo, sy’n cynnwys y bariton Jack Bowtell a’r gitarydd Oscar Watt, yn ensemble newydd gyda llais a gitar sy’n cyflwyno treftadaeth gyfoethog cân Brydeinig mewn ffordd ffres a gafaelgar. Ar ôl darganfod eu bod yn rhannu angerdd am ganeuon gwerin, aeth y ddau ati i drefnu a pherfformio eu gwaith eu hunain yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ac y tu hwnt i hynny. Bellach, ar ôl graddio, mae Jack, sy’n falch o’i wreiddiau yng Ngogledd Lloegr, ac Oscar, sy’n fwy balch byth o’i wreiddiau yn yr Alban, yn ceisio cyfleu caneuon a thraddodiadau’r gorffennol gan ailddychmygu’r genre yma i gynulleidfa newydd sbon. Wedi dweud hynny, nid cerddoriaeth werin yn unig mae’r ddau’n ei fwynhau. Er mai Caneuon Saesnig oedd cariad cyntaf Jack, fe hyfforddodd yn Ysgol Opera David Seligman ac mae wedi perfformio sawl rôl gydag Opera Cenedlaethol Cymru. At hynny, mae Oscar wedi canolbwyntio ar gerddoriaeth faróc, gan drefnu a pherfformio gydag ystod eang o gantorion.
Gwen 1 Ebr, Gwen 15 Ebr, Gwen 6 Mai, Gwen 20 Mai, Gwen 3 Meh, Gwen 17 Meh, Gwen 1 Gor, Gwen 15 Gor, Gwen 5 Awst, Gwen 19 Awst, Gwen 2 Medi, Gwen 16 Medi, Gwen 7 Hyd, Gwen 21 Hyd, Gwen 4 Tach, Gwen 18 Tach, Gwen 2 & Gwen 16 Rhag