Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Cardiff Guitar Festival: Alexandra Whittingham Guitar Recital

Gŵyl Gitâr Caerdydd: Alexandra Whittingham – Perfformiad Gitâr

Llun 1 Ion 0001 - Gwen 29 Gor 2022

Ar ôl astudio’r gitâr glasurol, y piano, gitâr jazz a chyfansoddi yn Ysgol Gerdd Chetham, cafodd Alexandra Whittingham ysgoloriaeth i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Ar ôl cael anrhydedd dosbarth cyntaf a Gwobr Gitâr Timothy Gilson yn 2019, dychwelodd i’r Academi Frenhinol y flwyddyn ganlynol i orffen ei gradd meistr. Graddiodd gyda rhagoriaeth, Diploma yr Academi Gerdd Frenhinol (a ddyfarnwyd am berfformiad rhagorol mewn perfformiad terfynol) a Gwobr y Rhaglywiaeth am ysgolheictod nodedig.

Ym mis Mai 2021, rhyddhaodd Alexandra ei halbwm stiwdio gyntaf, My European Journey, sy’n archwilio oes newydd y gitâr yn Ewrop y 19eg ganrif. Cyrhaeddodd yr albwm frig siart glasurol iTunes, a chyrhaeddodd frig siart Presto ar sail dim ond rhagarchebion cyn ei rhyddhau. Yn My European Journey mae angerdd Alexandra am gerddoriaeth y 19eg ganrif yn cael ei gyfuno â hoffter o ddarganfod cyfansoddwyr llai adnabyddus a thaflu’r goleuni arnyn nhw.

Gan gynnal presenoldeb prysur ar-lein, mae Alexandra wedi cael dros 200,000 o danysgrifwyr ar YouTube, lle mae fideos o’i pherfformiadau wedi cael eu gwylio dros 30 miliwn o weithiau i gyd. Mae ei chynulleidfa ar-lein wedi arwain at berfformiadau byw ledled Ewrop, gan gynnwys yng Ngŵyl Le

Temps des Guitares yn ne orllewin Ffrainc, Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis, Neuadd y Dref Vilnius yn Lithuania, a lleoliadau yn yr Eidal a’r Almaen.

Yn nes at adref, mae Alexandra wedi perfformio yn Stiwdios Abbey Road, Neuadd Gyngerdd Milton Court a Neuadd y Sir yn Llundain, ac yn Neuadd Bridgewater ym Manceinion ac Eglwys Gadeiriol Wells. Mae hi hefyd wedi ymddangos fel unawdydd concerto gyda Cherddorfa Ffilharmonig Gorton a Cherddorfa Siambr Dorset.

Mae hi’n falch iawn o fod yn artist Augustine Strings, ac yn defnyddio eu cyfres Regal Blue, ac mae’n chwarae gitâr Christopher Dean 2011.

Prisiau:

£12 / £8 

Please note this event is taking place off-site at Salem Chapel.  

Dylech nodi y bydd y digwyddiad yma oddi ar y safle yng Nghapel Salem.

Tocynnau ac Amseroedd