
Dechreuodd y gitarydd a’r cyfansoddwr fflamenco Daniel Martinez ei astudiaethau gitâr fflamenco yn 7 oed yn Conservatoire Cerdd Brenhinol Córdoba yn Sbaen.
Yn 2015, ar ôl gweithio mewn tablaos a gwyliau fflamenco niferus yn Córdoba, gorffennodd ei 14 mlynedd o astudio a symud i Brydain, ar ôl cael cais i berfformio yng Ngŵyl Cyrion Caeredin. Ynghyd â bod yn gerddor llawrydd, sefydlodd Daniel ei gwmni ei hunan yn 2016, sef Cwmni Fflamenco Daniel Martinez, cyn cynnal ei gynhyrchiad cyntaf Art of Believing, sydd wedi cael adolygiadau rhagorol gan y wasg a’r gynulleidfa, ennill gwobrau, a bod ar lwyfan theatrau a gwyliau gitâr a chelfyddydau ledled y wlad.
Gwen 1 Ebr, Gwen 15 Ebr, Gwen 6 Mai, Gwen 20 Mai, Gwen 3 Meh, Gwen 17 Meh, Gwen 1 Gor, Gwen 15 Gor, Gwen 5 Awst, Gwen 19 Awst, Gwen 2 Medi, Gwen 16 Medi, Gwen 7 Hyd, Gwen 21 Hyd, Gwen 4 Tach, Gwen 18 Tach, Gwen 2 & Gwen 16 Rhag