
Dyma mis Ebrill sioe gomedi rhithiol gyda Robin Morgan & Chyfeillion! Yn cyflwyno:
KIRI PRITCHARD-MCLEAN (Have I Got News For You, Live At The Apollo, Would I Lie To You?), SCOTT BENNETT (BBC Radio 4 The News Quiz, Stand Up From The Shed and Support Act for Rob Brydon) & ATHENA KUGBLENU (Mock The Week, The News Quiz and Writer for Frankie Boyle’s New World Order and The Russell Howard Hour)
Ac fel yr arfer, eich cyflwynydd am y noson fydd:
ROBIN MORGAN (The Now Show, Ellie Taylor’s Safe Space, Romesh Presents, Stand Up At BBC Wales)
Gallwch ymuno gyda nhw mewn dwy ffordd:
Gallwch fod yn y ‘rhes flaen’, sy’n golygu y byddwch chi mewn ar yr alwad Zoom gyda’r perfformwyr ac aelodau eraill y gynulleidfa. Byddwch chi’n rhan o’r sioe (ond yn bendant nid mewn ffordd gwneud hwyl am eich pen!) Y peth agosaf i gyd at fod mewn gig comedi go iawn. Mae’r tocynnau hyn yn brin a’r cyntaf i’r felin fydd hi o ran gwerthu.
Gwell da chi wylio’r sioe yn ddiogel anhysbys? Dim problem! Gallwch diwnio mewn a mwynhau diddanwch y noson heb i’r perfformwyr eich gweld!
Ar ddiwrnod y sioe byddwch yn cael côd Zoom a gwell i chi ‘gymryd eich sedd’ (mewngofnodi i’r cyfarfod) tua 7.45pm. Cerwch i hol y diodydd, ewch i’r tŷ bach a mwynhewch noson wych!
Dylech edrych yn eich ffolder sbwriel/sbam am yr e-bost. Os cewch chi unrhyw broblemau, anfonwch e-bost at ticketing@chapter.org
*Nodwch bod pob act wedi’u cadarnhau. Os bydd amgylchiadau na ragwelwyd gall yr actiau newid.
+ Bydd capsiynau byw ar gael ar gyfer y perfformiad yma
Suitable for ages 14+ advisory. May include strong language and themes of an adult nature