
Please note, this is an off-site event. The performance will take place at Rumney Conservative Club (633 Newport Rd, Rumney, Cardiff CF3 4FB). For instructions on how to get there, watch this short video here.
Wnaeth bod heb geiniog erioed edrych cystal! Dewch i’r parti hir-ddisgwyliedig - sioe drochol yn oes Llymder Prydain yr 21ain ganrif, sydd wedi’i hysbrydoli gan Bartïon Rhent Dadeni Harlem yn y dauddegau.
Mae’r coreograffydd a’r cyfarwyddwr o fri Darren Pritchard (House of Ghetto) a Common Wealth yn eich gwahodd chi, y gynulleidfa, i dalu i ddod i barti, er mwyn iddyn nhw allu talu rhent y mis, a’ch diddanu chi gyda’u ffrindiau sy’n artistiaid – dawnswyr, cantorion, cerddorion, beirdd – gan greu darlun caleidosgopig o’r hyn mae bod yn ddawnus, yn Gymry ac yn ddosbarth gweithiol yn ei olygu heddiw. Cymuned yng nghanol y llwyfan mewn cabare disglair o berfformiadau, sy’n adrodd eu straeon eu hunain am bris llymder.
Dyma’r cyntaf o dri chynhyrchiad teithiol cydweithredol a gomisiynwyd gan Moving Roots Touring Network, sef rhwydwaith teithiol creadigol dan arweiniad Canolfan Gelfyddydau Battersea gyda’r partneriaid cynhyrchu Lyrici Arts (Medway), Theatr Jumped Up (Peterborough), Common Wealth (Dwyrain Caerdydd), a The Old Courts (Wigan).
Dylech nodi y bydd cyfranogiad gan y gynulleidfa (yn unol â chanllawiau Covid).
Oed 18+
Rhybudd cynnwys: Mae’r perfformiad yn addas i oed 18+ ac yn cynnwys themâu i oedolio.
Ynglŷn â Common Wealth
Mae Common Wealth yn creu digwyddiadau theatr penodol i safle sy’n cwmpasu sain electronig, ysgrifennu newydd, dylunio gweledol a geiriau llafar. Mae ein gwaith yn wleidyddol ac yn gyfoes – wedi’i seilio yn y presennol – yr eiliad hon. Rydyn ni’n creu gwaith perthnasol sy’n mynd i’r afael â phryderon yr oes sydd ohoni.
Ynglŷn â Darren Pritchard
Perfformiwr, coreograffydd, athro, cynhyrchydd a chyfarwyddwr yw Darren. Mae hefyd yn berfformiwr Vogue poblogaidd ac yn Fam ar yr House of Ghetto ym Manceinion. Mae gan Darren 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant celfyddydau perfformio, ffasiwn, theatr a theledu. Yn ogystal â’i arweinyddiaeth yn y drwgenwog House of Ghetto, a’i ymdrechion arloesol yn Black Pride MCR, mae Darren hefyd yn gyd-gyfarwyddwr artistig ar gyfer y sefydliad celfyddydol ym Manceinion, Black Gold Art.
Rent Party is supported by Chapter.