Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Croeso i Ganolfan y Celfyddydau Chapter. Mae ganddon ni lawer o ddigwyddiadau, ffilmiau, perfformiadau, ac arddangosfeydd ar eich cyfer chi yn ystod y misoedd nesaf. Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i gael diweddariadau, newyddion a rhestriadau sioeau yn syth i’ch mewnflwch.

Company of Sirens: Hitchcock Redux

Company of Sirens: Hitchcock Redux

Company of Sirens yn cyflwyno:
Hitchcock Redux (Twelve Cabins Twelve Vacancies & Souvenirs of a Killing)

Ar diwrnod poeth ym mis Awst 1968, wrth wylio darllediad teledu o Psycho gan Alfred Hitchcock, mae tad yn marw. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae merch yn diflannu mewn amgylchiadau ofnadwy. 

Dau ddigwyddiad o’r gorffennol, wedi’u cipio a’u cadw drwy ddwy ffilm glasurol o’r chwedegau, mae Hitchcock Redux yn plethu dwy o straeon enwocaf y byd sinema, gyda dwy arall sy’n llawer mwy personol. 

Fe’i disgrifiwyd yn ei dangosiad cyntaf gan y Guardian fel “myfyrdod diddorol ar alar”, ac mae Hitchcock Redux yn archwilio’r eiliadau hynny pan fydd bywyd yn cysylltu â chelf. I ba raddau mae gwaith celf, ffilm, a llenyddiaeth yn hidlo ein hatgofion, gan ddod yn fwy hanfodol i’r atgofion hynny na’r digwyddiadau eu hunain?

Wedi’i hysgrifennu, ei chyfarwyddo a’i pherfformio gan Chris Durnall gydag Angharad Matthews, gan gynnwys cerddoriaeth wreiddiol wedi’i chyfansoddi a’i pherfformio’n fyw gan Eren.

Ail ran o brosiect parhaus gan Company of Sirens, wedi’i ariannu gan Gyngor y Celfyddydau a’r Loteri Genedlaethol.

+ sesiwn Holi ac Ateb ar ddydd Mawrth 12 Hydref

Prisiau:

£15 / £12

Tocynnau ac Amseroedd