
Rydyn ni i gyd yn cyflwyno wynebau gwahanol i’r byd, ond rhai’n fwy gwahanol nag eraill.
Yn y sioe un dyn ddoniol a gweledol syfrdanol yma, mae Shane Shambhu yn datgelu ei fywyd cyfrinachol yn dysgu dawns glasurol Indiaidd wrth iddo dyfu i fyny ym mhair diwylliannol Dwyrain Llundain.
Dilynwch drawsnewidiad Shane o fod y “bachgen tew” i berfformiwr rhyngwladol wrth iddo rwygo’n ddarnau syniadau o hil, iaith a diwylliant mewn cymysgedd syfrdanol o theatr, dawns a ffilm.
Nid stori “o garpiau i gyfoeth” Bollywood mohoni; dyma’r gwirionedd go iawn.
“Gwych, doniol, twymgalon ac ysbrydoledig.” ✭✭✭✭✭ British Theatre Guide
“Storïwr gwych, triciwr bywiog gyda chariad gorfoleddus at fywyd!” ✭✭✭✭ Voice Mag
Cwmni theatr corfforol rhyngwladol ac amlieithog yw Altered Skin, sy’n rhannu naratifau trawsddiwylliannol drwy gyfuno ffurfiau ar gelfyddyd o safbwyntiau byd-eang. Fe’i ffurfiwyd yn 2013 gan y Cyfarwyddwr Creadigol Shane Shambhu ac mae wedi’i leoli yn Birmingham.