Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Dirty Protest: Sprinkles

Dirty Protest: Sprinkles

Iau 19 - Sad 21 Rhag 2019
Seligman Theater

Oedran 14+

Anghofiwch bartïon Nadolig diflas y swyddfa a digwyddiadau teuluol llawn ffraeo! Mae Dirty Protest yn ôl am dair noson yn unig gyda rhodd Nadoligaidd i gyferbynnu â’r tinsel a’r trafferthion.

“Sprinkles, mae sïon ymhlith y Sionau Corn nad yw dy ymddygiad yn y groto wedi bod yn briodol i’r tymor?”

Corrach yw Sprinkles. Mae’n gweithio yng ngroto Sion Corn, rhwng John Lewis a’r siop ryw. A hithau wedi yfed gormod y noson gynt ac yn gorfod gwneud sifft ddwbl gyda Band Aid yn chwarae rownd y rîl, mae hi ar ymgyrch benderfynol i oroesi yn ei swydd dros dro dros gyfnod yr ŵyl.

Perfformiad sgript mewn llaw o ddrama anorffenedig

Perfformwraig: Charlotte Gray

Cyfarwyddwr: Catherine Paskell

Prisiau:
£5.00

Tocynnau ac Amseroedd