
‘Dw i ddim eisiau esgus, does dim byd yma ond bocs.
Dw i ddim eisiau dychmygu, does gen i fawr o ots.
Dim ond bocs bach sgwâr wedi’i wneud o bren,
Alla i ddim gweld dim byd mwy yn fy mhen.’
Un tro, roedd merch oedd yn methu esgus. Un dydd, pan oedd ei mam yn brysur, caiff ei gadael ar ei phen ei hunan mewn ystafell gyda dim byd ond bocs. Ond efallai nad dim ond bocs yw bocs wedi’r cwbl...
Mae The Girl Who Couldn’t Pretend yn stori antur am ferch sy’n ceisio dod o hyd i’w dychymyg. Gyda llawer o gymeriadau yn ei helpu ar hyd y ffordd, mae’n hela drwy goedwigoedd, y môr a’r awyr i esgus ei ffordd i rai o’r llefydd mwyaf anhygoel – o rasio morfilod gyda Brenhines y byd tanddwr, i hedfan mewn balŵn aer poeth i enwi’r sêr.
Gyda cherddoriaeth wreiddiol fyw, cymeriadau hwyliog a rhyngweithio, bydd Flossy a Boo yn dychwelyd gyda’u brand hudol o adrodd straeon yn y chwedl hyfryd yma am bŵer y dychymyg.
BSL gan Sami Dunn (2pm perfformiad)