Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Go Faster Stripe Comedy: Rob Kemp

Go Faster Stripe Comedy: Rob Kemp

Llun 1 Ion 0001 - Sad 1 Ebr 2023

Sioe gomedi arddull stand-yp/adrodd stori yw Agenda, am y cywilydd o fod yn ddyn sydd eisiau gwisgo ffrog, gan ddyn yn gwisgo ffrog. 
 
Gan ofni y byddai’n cael ei wrthod gan ei anwyliaid a phobl eraill mae’n poeni ychydig yn llai amdanyn nhw, mae wedi cymryd llawer o amser i’r digrifwr Rob Kemp ddeall a goresgyn yr agweddau hen ffasiwn tuag at ddillad a’r disgwyliadau rhywedd y cafodd ei fagu gyda nhw. Ar ôl gweld stag-dŵ ar thema Mario, a stag wedi gwisgo fel y Dywysoges Peach, meddyliodd: “Beth sydd i fod mor gynhenid ddoniol am ddyn wedi gwisgo fel menyw?” 
 
Ar ôl cael llond bol ar fod yn jôc y stori, mae’r digrifwr traws clodwiw, Rob Kemp, eisiau adrodd stori bersonol am gywilydd, hunaniaeth, disgwyliadau, a bod yn driw i chi’ch hunan. 
 
Dylech ddisgwyl sîcwins a chyfeiriadau at ffilmiau John Carpenter. 
 
Bydd y perfformiad yma’n cael ei ffilmio. 
 
**** Chortle 
 
Cymerwch gip ar ddigwyddiadau eraill Go Faster Stripe sy’n digwydd ar yr un diwrnod gyda Bethany Black, Wil Hodgson a Steve Hall.  

 

Prisiau:

£5 

Duration: 60 mins 

 

Tocynnau ac Amseroedd