
Sioe am fwynhau bywyd, hyd yn oed pan mae’r cyfan yn mynd tits i fyny.
Gwelodd pobl dda Go Faster Stripe daith Steve yn The Glee Club Caerdydd y llynedd, ac roedden nhw eisiau ei ffilmio tra mae e’n dal i fod yn ifanc ac yn hardd (mae e’n 46!).
Steve oedd y digrifwr gwadd cyntaf erioed ar raglen Russell Howard’s Good News, ac mae e wedi cefnogi Russell ar lwyth o deithiau. Roedd yn un rhan o dair o’r ffyliaid sgetsh We Are Klang, a oedd yn wych yn fyw, ond braidd yn shit ar y teli. Mae e i’w glywed yn achlysurol iawn ar sioe Absolute Radio Frank Skinner.
Bydd y perfformiad yma’n cael ei ffilmio.
"Steve Hall yw’r digrifwr mwyaf deallus nad ydych chi wedi clywed amdano”, GQ
"Comedïwr cain", Time Out
“Comig cyflawn”, Edfest Mag
Cymerwch gip ar ddigwyddiadau eraill Go Faster Stripe sy’n digwydd ar yr un diwrnod gyda Bethany Black, Rob Kemp a Wil Hodgson.