
Mae naw person â cholled golwg yn sownd yn y goedwig. Wrth i’r nos gau amdanyn nhw, maen nhw’n dod at ei gilydd, yn cynnau tân, ac yn dechrau adrodd straeon wrth ei gilydd. Pwy neu beth all eu harwain yn ôl at ddiogelwch?
Yn cynnwys cerddoriaeth fyw, ffilm, a gyda disgrifiadau sain wedi’u plethu i’r perfformiad, mae naw aelod o Sight Life Cymru yn sôn am eu profiadau nhw yn y cyfnod clo. Mae eu straeon yn ddoniol, yn drist, ac yn deimladwy, wrth iddyn nhw gael eu hynysu gan y pandemig a’u colled golwg eu hunain, a cheisio cysur mewn byd natur.
Dros 14 mlynedd, mae Company of Sirens wedi cynhyrchu corff mawr o waith sy’n cynnwys dangosiadau cyntaf o ddramâu cyfoes pwysig. Maen nhw wedi gweithio gyda rhai o awduron mwyaf cyffrous Prydain, ac wedi darparu prosiectau sy’n delio â materion fel awtistiaeth, colled golwg, a throseddau cyllyll. Disgrifiwyd eu prosiect diwethaf Stone the Crows yn y wasg fel “profiad theatr grymus a thrawsnewidiol”.