Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Ify Iwobi: History Tour

Ify Iwobi: Taith History

Mae Ify Iwobi yn cychwyn ar ei thaith History o amgylch Cymru a thu hwnt. Mae’r daith yn cynnwys band deg rhan a fydd yn cyfeilio rhai o’r traciau oddi ar ei halbwm ddiweddaraf, ‘Better Than That’. Bydd digon o westeion annisgwyl yn ymuno â hi ar hyd y daith am brofiad na fyddwch chi am ei fethu! 

Cyfansoddodd a chyd-gynhyrchodd Ify yr holl draciau ar yr albwm, sy’n cynnwys cantorion o Gymru, Lloegr, Ewrop, Nigeria ac America. Mae’r daith yn addo bod yn brofiad sy’n swyno ac yn gwefreiddio cynulleidfaoedd gyda gweithiau cerddorol cofiadwy. 

Mae Ify Iwobi yn bianydd/cyfansoddwr ac yn Artist ar Restr A BBC Radio Wales. Astudiodd gwrs Perfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Brunel yn Uxbridge. Mae Ify wedi perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’r Amgueddfeydd Cenedlaethol er enghraifft, ac wedi cynnal perfformiadau yn Llundain, Nigeria ac Ohio. Cyfansoddodd a chyd-gynhyrchodd Ify ei gweithiau gwreiddiol ei hunan gyda chantorion blaenllaw. Mae’r gweithiau mae hi wedi’u rhyddhau yn cynnwys ‘Flying High,’ ei halbwm ‘Illuminate,’ EP ‘Bossin’ It,’ ‘Solo’ (gyda Luna Lie Lot) ‘We Won’t Forget’ (gydag Artistiaid Hanes Pobl Dduon Cymru) ac ‘Ambition’ (gydag Anwar Siziba). Mae dau o’i thraciau oddi ar yr EP ‘Bossin’ It’ wedi bod ar Restr A BBC Radio Wales, sef ‘Love Rapsody’ (gydag Anwar Siziba) a ‘Thinking About You’ (gyda Jinmi Abduls). Mae ‘Solo’ (gyda Luna Lie Lot) hefyd wedi bod ar Restr A, gan gynnwys ‘Ambition’ (gydag Anwar Siziba), ‘Rise’ (gyda B-LAKE) a ‘History’ (gyda B-LAKE). 

Mae ei gwobrau’n cynnwys: 2022: Artist ar Restr A BBC Radio Wales; 2021: Gwobr Bread and Roses Undeb y Cerddorion: Trac COVID-19; 2021: Artist Rhestr A BBC Radio Wales; 2020: Artist Rhestr A BBC Radio Wales; 2019: Gwobr Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Lleiafrifoedd Ethnig Cymru ar gyfer y Celfyddydau a Cherddoriaeth.

‘Wrth fy modd!’ (Love Rapsody: Ify Iwobi gydag Anwar Siziba), Jason Mohammad,  BBC Radio Wales 

Prisiau:

£15 / £12


Duration: approx. 2 hours + interval
Hyd: tua 2 awr + cyfwng


Unallocated seating - sold at full capacity

COVID safety: We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here.

Tocynnau ac Amseroedd