
Mae Jack Lukeman yn ganwr-cyfansoddwr, yn berfformiwr, yn storïwr, ac yn llawer mwy na hynny. Mae’n artist llwyddiannus sydd wedi cyrraedd gwerthiant platinwm yn ei famwlad, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi wedi rhoi mwy o’i amser i’w gynulleidfa gynyddol yng ngwledydd Prydain a thramor. Mae wedi teithio gwledydd Prydain fel gwestai arbennig ar deithiau gan Imelda May, Jools Holland, The Proclaimers a Neil Sedaka.
Er gwaetha’r oedi i’w daith oherwydd COVID, mae Jack yn dychwelyd o’r diwedd i berfformio’n fyw ym Mhrydain. Ni fu’n segur yn ystod y cyfnod clo; fe berfformiodd 26 o ffrydiau byw o wahanol sioeau yn cynnwys caneuon gan rai o’i hoff artistiaid: The Beatles, Johnny Cash, Leonard Cohen a mwy.
Mae Lukeman yn berfformiwr llwyfan cymhellol a disglair. Mae’n ymgorffori ymwybyddiaeth theatraidd a rhamantus pobl fel Jacques Brel, ond ag apêl melodig diffuant a dawn am greu byd ‘realaidd hudol’ sy’n llawn pob math o gymeriadau anarferol a darluniadol - mae Lukeman yn fath prin ac anarferol o berfformiwr.
“Y perfformiwr mwyaf godidog ac enigmatig.” Cylchgrawn Edinburgh Spotlight
Gwen 1 Ebr, Gwen 15 Ebr, Gwen 6 Mai, Gwen 20 Mai, Gwen 3 & Gwen 17 Meh