Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Joon Dance presents Fabulous Animals

Joon Dance yn gyfwlyno Fabulous Animals

Iau 25 - Sul 28 Mai

Mae anifeiliaid yn wyllt, yn dilyn eu greddf. Does dim ots ganddyn nhw am y ffordd maen nhw’n edrych na chwaith beth rydyn ni’n ei feddwl ohonyn nhw. Maen nhw’n edrych ar ôl eu hanghenion eu hunain ac anghenion eu haid, eu praidd, eu llwyth a’u cynefin.

Mae Fabulous Animals yn berfformiad theatr  ddawns beiddgar sy’n archwilio ail-wylltio’r corff a’r hunan. Cofleidio ymddygiadau anifeilaidd i ddatgloi harddwch, ecoleg a llawenydd hoyw.

Mae Joon Dance yn gwmni bach sydd wedi’i ymrwymo i ymarfer a perfformio cynhwysol ac arloesol yn y gymdeithas, gan weithio’n bennaf yn Sir Benfro a Chaerdydd.

 

Prisiau:

£14 / £12 

Duration: Appox. 60 min

Tocynnau ac Amseroedd