
Mae’r band Indo-Gymreig Khamira yn dychwelyd i Chapter am y tro cyntaf ers gwerthu pob tocyn i’w sioe yn 2017. Gan gyfuno cerddoriaeth werin Gymreig, cerddoriaeth glasurol Hindwstani, a jazz, mae Khamira yn perfformio cerddoriaeth fyrfyfyr y byd ar ei gorau.
Mae tri o gerddorion creadigol gorau Cymru yn ymuno â thri o artistiaid anturus ton newydd India sy’n croesi genres i greu Khamira. Mae llais a Sarangi rhinweddol Suhail Yusuf Khan yn asio gyda thrwmped cynnil Tomos Williams; mae tabla Vishal Nagar yn ymuno mewn gwledd o rythmau a thrawsacenion gyda chit drymiau Mark O’Connor; ac mae gitâr Aditya Balani yn esgyn dros fas Aidan Thorne.
Dychmygwch gwmpas sinemataidd y Pat Metheny Group a ffync grynj band saithdegau Miles Davis, wedi’u plethu gyda darnau o gerddoriaeth werin felancolaidd o Gymru a meistrolaeth glasurol Indiaidd!
Ar ôl teithio o gwmpas India am y tro cyntaf yn 2015, mae’r band bellach wedi teithio ar hyd Cymru (2017) ac India (2018) a pherfformio yn Ne Corea (2019). Y perfformiad yma fydd dyddiad olaf eu taith yng Nghymru, a bydd yn cyd-fynd â rhyddhau eu hail albwm ‘Undod/Unity’.
“Pan mae’r band llawn yn chwarae, mae’r gerddoriaeth bron yn symffonig yn ei graddfa, a gallwch ddeall o ble daw’r cymariaethau gyda Metheny, mae’r sain yn debyg yn ei naws sinemataidd ac yn gyfoeth o liw a gwead.” The Jazz Mann ★★★★