
Awydd chwerthin? Eisiau gweld rhywbeth ychydig yn wahanol? Yna paratowch i fod yn eich dyblau wrth i’r ddigrifwraig ddrag eiconig oddi ar restr fer Gwobr Comedi Newydd BBC 2021, y Fonesig Bushra, gynnal noson gomedi fel na welsoch chi mo’i thebyg erioed!
Merch ddrwg o Bradford yw’r Fonesig Bushra, sy’n cael ei chwarae gan Amir, a ddaeth yn seren yn ystod y cyfnod clo gyda’i chynnwys digidol feiral a’i jôcs un-llinell. Paratowch i glywed am fywyd o safbwynt Prydeinig-De Asiaidd gyda dos fawr o hiwmor!
Ochr yn ochr â’i chyd-artistiaid drag, bydd y ddigrifwraig ddrag yn eich diddanu am ddwy awr gyfan wrth i chi fwynhau’r digwyddiad mewn awyrgylch arddull cabare.
Mae ei gtwr, Amir hefyd yn cyflwyno podlediad LHDT+ gyda’i ŵr, o’r enw ‘You Don’t Love Me’