
Sioe newydd gan y storïwr meistrolgar James Rowland, gyda chymysgedd hudol o theatr, comedi a cherddoriaeth.
Mae Learning to Fly yn adrodd stori’r cyfeillgarwch rhyfeddol rhwng yr arddegwr unig ac anhapus James a’r hen fenyw frawychus oedd yn byw yn y tŷ arswydus ar ei stryd.
Mae’n ymwneud â chysylltiad, waeth beth yw’r rhwystrau; am frwydr dragwyddol cariad gydag amser; am gerddoriaeth a’i gallu i wella.
Mae hefyd am ei dymuniad olaf hi: cael profiad penfeddwol cyn marw.
Mae sioe gyntaf James ers ei drioleg lwyddiannus Songs of Friendship yn codi hwyliau, yn ddoniol, ac mae ganddi galon fawr.
“Cyfareddol... emyn hael a dwys am gyfeillgarwch”. Sunday Times ★★★★
Mae James yn fwyaf adnabyddus am ei drioleg Songs of Friendship – sef Team Viking, A Hundred Different Words for Love a Revelations – a gafodd lawer o ganmoliaeth, gan deithio ar hyd Prydain ac yn rhyngwladol am bedair blynedd, cyn cael ei chyhoeddi gan Oberon Books. Yn cynnwys ei gymysgedd gyfareddol o gomedi, cerddoriaeth a straeon, mae sioeau James wedi teithio’n llwyddiannus i leoliadau gwledig a theatrau rhanbarthol blaenllaw.