
Cyflwynwyd fel rhan o LezDiff – Gŵyl Ffilm a Chelfyddydau Lesbiaidd Ryngwladol Caerdydd
Dywedir yn aml bod ‘Menywod wedi’u hysgrifennu allan o Hanes’, ond i fenywod lesbiaidd, mae hyn yn wir ddwywaith. Ymunwch â ni mewn bore cyffrous ac addysgiadol yn archwilio’r ffyrdd niferus mae ein perfformwyr a’n hawduron yn gwneud yn siŵr bod lesbiaid yn cael eu hysgrifennu yn ôl i mewn!
Perfformiad
Mae Queer Tales From Wales yn cyflwyno: An Extraordinary Female Affection – The Life and Love of the Ladies of Llangollen.
Cyfle i glywed am ddwy fenyw ddiddorol wrth iddyn nhw ddod yn ôl yn fyw drwy lythyron dyddiaduron a chaneuon – a phenawdau cyffrous.
Ysgrifennwyd ac ymchwiliwyd gan Jane Hoy. Perfformiwyd gan Jane Hoy a Helen Sandler. I ddysgu mwy am y sioe, cliciwch yma.
Trafodaeth Banel
Awduron Ffuglen a Chofiannau Hanesyddol Lesbiaidd yn trafod eu gwaith. Mae’r panel yn cynnwys: Norena Shopland, Jill Gardiner, Jane Hoy, Jane Traies a Jacky Bratton (gyda’r ddwy olaf yn trafod eu gwaith ffeithiol unigol a hefyd eu ffuglen cyfunol, yn ysgrifennu dan yr enw ‘Jay Taverner’).
Llofnodi llyfrau wedi’i gynnwys. Sgwrsiwch gyda’r awduron, prynwch lyfrau!