
Ymunwch â ni am awr, i ailddarganfod llawenydd dawns fyw gan bwerdy artistiaid o Gymru.
Mae ‘Why Are People Clapping!?’ gan Ed Myhill yn llawenhau, yn ddoniol ac yn rhyfeddol o glyfar. Mae wedi’i gosod i ‘Clapping Music’ gan y cyfansoddwr Steve Reich ac yn defnyddio rhythm fel grym gyrru. Mae’r dawnswyr yn clapio, stampio a neidio i greu’r trac sain byw. Mae’n cynnwys tynnu wynebau, tapio traed, llawenydd.
‘Moving is everywhere, forever’ gan Faye Tan. Cerdd foddhaus i’r grefft o ddawnsio; gwahoddiad i gael eich denu’n reddfol i ‘grooving’, wrth wrando ar drac y ddeuawd electronig Cymreig, Larch.
Rhwng y ddau berfformiad bydd munudau hwyliog o ddawnsio a dysgu symudiadau o’r sioe.
Amser rhedeg: 45 munud
Coreograffi: Ed Myhill a Faye Tan
Cerddoriaeth: Steve Reich a Larch
BSL gan Claire Anderson (7 Awst)
Bydd perfformiadau yn digwydd y tu allan ym maes parcio Chapter.
Gwybodaeth i gynulleidfaoedd - Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Perfformiadau Awyr Agored yn CHAPTER