
Dechreuodd Under Pressure yn 2016 fel 'Let's Dance' pan ofynnwyd iddynt berfformio mewn gig yn dathlu bywyd Bowie a chodi arian ar gyfer Gofal Canser Marie Curie. Mae eu henw'n adlewyrchu eu cariad at Bowie & Queen. Bydd y band yn gyfarwydd i'r rhai a welodd eu hymddangosiad chwedlonol yn nigwyddiad Nos Galan Chapter yn 2016. Byddant yn perfformio caneuon clasurol Bowie a bydd gwestai arbennig, Dead Method, seren LHDTQ+ Caerdydd, yn ymuno â nhw.