Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Newsoundwales: Jim Ghedi and Toby Hay

Newsoundwales: Jim Ghedi a Toby Hay

Llun 1 Ion 0001 - Sad 10 Meh 2023

Newsoundwales yn cyflwyno Jim Ghedi a Toby Hay – gitaryddion arddull bys adnabyddus – sydd wedi dod at ei gilydd i gyfuno gwahanol ddylanwadau ac arddulliau o chwarae i greu sain unigryw ar gyfer cerddoriaeth werin y gitâr.  

Bydd y ddeuawd yn perfformio noson o gerddoriaeth offerynnol o’u halbwm gyntaf a ryddhawyd gyda Recordiau Topic ym mis Mai 2023. Recordiwyd yr albwm yn gwbl fyw – heb ddim addasiadau na dybs – a lluniwyd yr albwm dros dridiau ymhlith mynyddoedd tawel cefn gwlad y canolbarth.  

Mae’r record newydd yma’n cyfleu sain dau ddyn mewn sgwrs, ond eto sy’n siarad mewn un llais. Mae Jim yn chwarae gitâr chwe thant ac mae Toby’n chwarae gitâr deuddeg tant, ond mae’r sain maen nhw’n ei greu yn debyg i drydydd offeryn arall-fydol cwbl newydd: mae’n helaeth, yn loyw, yn gywrain, yn hynafol ond eto’n fodern – ac yn gwbl unigryw.  

“LP deuawd gitâr werin hyfryd a hylifol a recordiwyd mewn penwythnos o baneidiau ar ôl wythnosau o jamio ar daith gyda’i gilydd.” MOJO 

Prisiau:

£15 

Duration: 2 hours (inc. interval) 

Age guidance: 14+ 

Latecomers welcome

Tocynnau ac Amseroedd