
Wedi’i gyflwyno gan Little Soldiers
Ar ôl rhai blynyddoedd cyffrous yn creu a theithio sioeau ledled y byd, fe gollodd Mercè a Patricia fomentwm rhywsut, ac maen nhw wedi cyrraedd pen eu tennyn. Roedden nhw’n gwybod erioed y byddai creu theatr yn anodd, ond pan mae’n rhaid iddyn nhw wisgo fel fflamingos mewn canolfan siopa i ddod â dau ben llinyn ynghyd, maen nhw’n ystyried rhoi’r ffidil yn y to.
A all eu breuddwyd o lwyfannu Waiting for Godot eu cael nhw’n ôl ar y trywydd cywir, neu a fydd eu hen ddyhead yn cael ei grogi tan y tâp coch?
Archwiliad doniol, a theimladwy ar adegau, o gwmnïaeth, cyd-ddibyniaeth, a’r hyn sy’n ein cymell ni i ddal ati, hyd yn oed yn wyneb methiant a waliau biwrocrataidd.
Saesneg, gyda rhywfaint o Sbaeneg gydag is-deitlau
Gwen 1 Ebr, Gwen 15 Ebr, Gwen 6 Mai, Gwen 20 Mai, Gwen 3 & Gwen 17 Meh