
Theatr Iolo yn cyflwyno
Owl at Home
Wedi’i seilio ar y llyfr â darluniau i blant gan Arnold Lobel Addaswyd i’r llwyfan gan Rina Vergano + Theatr Iolo
Mae 'Owl’ yn byw mewn tŷ bach clyd mewn boncyff gwag yn y goedwig. Ond gan fod ‘Owl’ yn unig druan, mae’n canu iddo’i hun ac yn chwilio am ffyrdd i ladd yr amser. Mae’n pendroni llawer am bethau. Beth fyddai’n digwydd pe bai’n gwahodd y gaeaf i mewn i’w dŷ? Ydi ‘Owl’ yn gallu bod mewn dau le ar yr un pryd?
Wrth i’w ddychymyg garlamu, mae pethau o’i gwmpas yn dechrau dod yn fyw. Ac mae’n dod o hyd i ffrind yn sydyn, ffrind sy’n barod i’w ddilyn i ben draw’r byd... os yw ‘Owl’ yn dymuno hynny neu beidio!
Mae Owl at Home yn stori hudolus gyda cherddoriaeth, a honno’n dangos sut mae cyfeillgarwch yn cuddio yn y llefydd mwyaf annisgwyl.
Perfformiad â Dsigrifiad Sain ar Mercher 2 Tachwedd am 10yb.
Perfformiad Ymlaciedig ar Iau 3 Tachwedd am 10yb.