
Drwy ganeuon Nina Simone, mae’r ddeuawd yma’n dangos gydag angerdd di-ymddiheuriad berthynas doredig cwpl a fu unwaith yn llawn rhamant, wrth iddyn nhw blymio i’w gorffennol mewn ymgais i ailadeiladu eu dyfodol gyda’i gilydd. Drwy gerddoriaeth Simone, mae’r gwaith dawns yma’n taflu goleuni ar ein cysylltiad dwfn ag atgofion drwy gerddoriaeth, ac yn awgrymu pŵer caneuon a’r hyn y gallan nhw ei wneud. Yn farddonol, yn angerddol, yn gorfforol ac yn emosiynol, mae What songs may do... yn ddarn dawns cynhwysol sy’n dathlu cariad yn ei holl amrywiaeth.