
Mae’r ddrama tri chymeriad ffraeth a thelynegol yma’n cynnig archwiliad teimladwy o’r hyn sy’n digwydd pan nad yw pethau’n “hapus am byth”.
“Ro’n i’n meddwl y bydden i’n gweithio arno fe.
Yn ei geisio tan i fi anadlu fy anadl ola’.
Roedd fy uchelgais a fy mharodrwydd mor bendant â hynny.
Ond bydd uchelgais...
Bydd uchelgais yn eich lladd.”
Mae’r sbarc yn digwydd yn syth. Filltiroedd oddi cartre, maen nhw’n dod o hyd i’w gilydd.
Roedden nhw’n mynd i’w gwneud hi, gyda’i gilydd.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, a’r byd wedi’i ailosod a’i newid am byth, maen nhw’n
dychwelyd at ble adawon nhw bethau. Mae un yn awdur arobryn, a’r llall yn mabwysiadu
plentyn ac yn rhoi ffydd mewn crisialau.
Mae’r sbarc yn dal yno, yn drydanol ac yn beryglus. Ond sut ydych chi’n gwella ar ôl cael eich
llosgi?
Mae’r ddrama tri chymeriad ffraeth a thelynegol yma gan Rebecca Jade Hammond, sgriptwraig o
Gaerdydd sydd wedi cyrraedd rhestr byr Papatango, yn archwiliad teimladwy o’r hyn sy’n digwydd
pan nad yw pethau’n “hapus am byth”.
Cyfarwyddwyd y sioe gan Chelsey Gillard. Cafodd ei phenodi’n ddiweddar fel Cyfarwyddwr Artistig
Theatr Torch yn Aberdaugleddau.
Taflen sain ar gael yma: Right Where We Left Us Audio Flyer 2022 - YouTube
”Pe bawn i am grynhoi ail gynhyrchiad Chippy Lane mewn gair, y gair yna bron yn sicr fyddai ‘cariad’.
Ar y llwyfan ac oddi arno, mae cariad yn treiddio drwy bob twll a chornel.” Wales Arts Review.
“Mae Rebecca’n arloesi gyda chyfleoedd i awduron benywaidd o Gymru hyrwyddo eu sgiliau a thorri
trwy’r ffiniau a’r ystrydebau mewn gwaith ysgrifennu maen nhw wedi cael eu cyfyngu iddo’n
flaenorol.” The Cardiffian.
Mae yna dau gwmni o actorion yn perfformio ar nosweithiau gwahanol, fwy o wybodaeth isod.
Cwmni 1
Hannah Daniel
Jacob Ifan
Jonathan Hawkins
Cwmni 2
Rick Yale
François Pandolfo
Jonathan Hawkins
Mer 28 Medi: Cwmni 1 @ 7:30pm
Iau 29 Medi: Cwmni 2 matinee @ 2:30pm, Cwmni 1 (Press night) @ 7:30pm
Gwen 30 Medi: Cwmni 2 (Press night) @ 7:30pm
Sad 1 Hydref: Cwmni 2 @ 2:30pm *BSL Interpreted, Cwmni 1 @ 7:30pm
Llun 3 Hydref: Cwmni 2 @ 7:30pm
Maw 4 Hydref: Cwmni 1 @ 7:30pm*
Mer 5 Hydref: Cwmni 1 @ 2:30pm, Cwmni 2 @ 7:30pm
* Trafodaeth ôl-sioe o 30 munud yn ddechrau 15 munud ar ôl y sioe ar 4 Hydref. Bydd y drafodaeth hefo'r cast o'r noson yna - Hannah Daniel, Jacob Ifan, Jonathan Hawkins a'r cyfarwyddwr Chelsey Gillard.
Twitter: https://twitter.com/chippylaneprod
Instagram: https://www.instagram.com/chippylaneproductions/
Facedbook: https://www.facebook.com/chippylaneproductions